Dyrchefwch, byrth, eich pennau, Ehangwch eich terfynau, Mae'r Brenin heddyw'n d'od yn ôl I'w ddwyfol diriogaethau; Ei gadarn fuddugoliaeth Ar bechod a marwolaeth Enillodd hawl i'w orsedd lân Yn darian Iachawdwriaeth. Anfeidrol yw Ei haeddiant, A theilwng o'r gogoniant, A phob awdurdod, gras a dawn, Yn gyflawn yn Ei feddiant; Dragwyddol byrth, agorwch O flaen Tywysog Heddwch, A daw i mewn â llawen floedd O niwloedd yr anialwch. Fe gân telynau filoedd I Arglwydd Dduw y lluoedd, A phlyg y nefoedd ar ei glin I Frenin y brenhinoedd; Agorodd ffordd i esgyn O gyrraedd marwol elyn, Ac ar Ei ôl, yng ngoleu'r wawr, Mae tyrfa fawr yn dilyn.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 7787D] |
Lift up, gates, your heads, Extend your borders, The King today is coming back To his divine territories; His firm victory Over sin and death Won the right to his holy throne As a shield of Salvation. Immeasurable is His merit, And worthy of the glory, And every authority, grace and gift, Righteously in His possession; Eternal gates, open Before the Prince of Peace, And he shall come in with a joyful shout From the mists of the desert. Thousands of harps shall play To the Lord God of hosts, And heaven shall bow on its knee To the King of kings; A way opened to ascend From the reach of a mortal enemy, And behind Him, in the light of the dawn, A great throng is following.tr. 2020 Richard B Gillion |
|