Daeth Iesu o'i gariad i'r ddaear o'r nef, Fe'i ganwyd yn faban ym Methlehem dref: Mae hanes amdano 'n ôl tyfu yn ddyn yn derbyn plant bychain i'w freichiau ei hun. Mae'r Iesu yn derbyn plant bychain o hyd: Hosanna i enw Gwaredwr y byd! Sefydlodd ei deyrnas i blant yn y byd, Agorodd ei fynwes i'w derbyn i gyd: "Gadewch i blant bychain ddod ataf," medd ef, "Cans eiddo y cyfryw yw teyrnas y nef." Pan oedd yn mynd heibio i'r ddinas neu'r dref, Y plant a'u Hosanna oedd uchaf eu llef: 'Roedd Iesu yn tynnu y plant ato'i hun, A bendith yn barod ar gyfer pob un. Mae'r Eglwys a'r ddaear a'r nefoedd a Duw Yn noddfa, yn gartref i'w cadw yn fyw: Mae miloedd ar filoedd o blant yn y nef Yn seinio Hosanna am byth iddo ef. oedd yn mynd :: elai Ef A bendith yn barod :: A chanddo'r oedd bendith Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905
Tôn [6565D+6565]: Hosanna/Schubert |
Of his love Jesus came to the earth from heaven, He was born as a baby, in the town of Bethlehem: There is a story about him after growing into a man Receiving little children into his own arms. Jesus is receiving little children still: Hosanna to the name of the Deliverer of the world! He established his kingdom for children in the world, He opened his breast to receive them all: "Let the little children come to me," said he, "For such possess the kingdom of heaven." When he was going past to the city or the town, The children with their Hosanna were of a loud voice: Jesus was drawing the children to himself, And a blessing ready for each one. The Church and the earth and the heavens and God are A refuge, and a home to keep them alive: There are thousands upon thousands of children in heaven Sounding Hosanna forever to him. he was going :: He would go With a blessing ready :: And he had a blessing tr. 2009 Richard B Gillion |
|