Darostwng ein Tad, deuluoedd y wlad, I gredu'r Efengyl, er syml lesad; Fel byddo i bob rhyw gael dewis gair Duw, A'i gym'ryd yn rhëol wirfoddol i lyw. Mae'r amser yn nesu bydd canu'n mbob cell, Pan ddelo'r Iuddewon o Babilon bell, Fe ddaw yr Iuddewon yn rhyddion bob rhyw, I addef a chredu fod Iesu'n Fab Duw. O danfon bysgodwyr a helwyr o hyd, I ddwyn o'u llochesau dy berlau drwy'r byd; Dwg lawer i'r golwg yn amlwg i ni, O'r rhai sydd o roddiad y Tad genyt ti. O dyro drugaredd mewn hedd i'w mwynhau, I blant yr Iuddewon, i'w llwyrion wellhau; A'u dwyn o'u tywyllwch, eu c'ledwch, a'u clwy, Nad allont annghredu am Iesu byth mwy. O danfon dy weision yn dirion, O Dad, A gair y gwirionedd fel gwledd i bob gwlad; Fel caffo teuluoedd cenhedloedd cyn hir, Yn fuan, gael clywed a gweled y gwir.Edward Jones 1761-1836 [Mesur: 11.11.11.11] |
Humble, our Father, the families of the land, To believe the gospel, for the sake of simple relief; That every kind get to choose the word of God, And take it as a voluntary rule for living. The time is drawing near when there shall be singing in every cell, When the Jews come from distant Babilon, The Jews shall come free every kind, To confess and believe that Jesus is the Son of God. O send fishers and gatherers always, To bring from their refuges thy pearls throughout the world; Lead many to view obvious to us, From those who are of the Father's gift to thee. O grant mercy in peace to enjoy it, To the children of the Jews, completely to make them better; And bring them from their darkness, their hardness, and their wound, That they may never more be unbelieving about Jesus. O send thy servants tenderly, O Father, And the word of truth like a sword to every land; That a family of nations may soon be found, Quickly, to get to hear and see the truth.tr. 2020 Richard B Gillion |
|