Dowch blant i ganu Am ryfedd ddoniau Duw: Fe sy'n ein porthi, Ac yn ein cadw'n fyw; Efe o'i nef yw Tad y glaw, Ac Ef a gwyd yr huan draw, Mae'r gwynt a'r cyfan yn ei law Yn ddoniau hael i ddynion. Dowch, cenwch iddo, Â phêr soniarus lef, Mawl fo'n datseinio I entyrch nef y nef; Efe wnaeth brydferth sêr y nen, Y rhosyn coch a'r lili wen, A'r blodau mân sy'n plygu eu pen Yn wylaidd mewn unigrwydd. Dowch, dyblwch ganu: Y fendith fwyaf oll Yw trefn i wared Rhai wedi mynd ar goll; Y Tad, ei unig Fab a roes, I farw drosom ar y Groes, Dioddefodd yntau angau loes, O'i fodd dros bechaduriaid.Eleazar Roberts 1825-1912
Tôn [5656.8887]: 3 434|5 8|1 212|343 2 |
Come, children, to sing About the wonderful gifts of God: He it is who feeds us, And keeps us alive; He from his heaven is the Father of the rain, And he raises yonder sun, The wind and everything in his hand are Generous gifts to men. Come, render to him, With a sweet tuneful cry, Praise that it be resounding To the vault of the heaven of heaven; He made the beautiful stars of heaven, The red rose and the white lily, And the little flowers that bow their heads Modestly in isolation. Come double your singing: The greatest blessing of all Is to arrange to deliver Those who have got lost; The Father, who gave his only Son, To die for us on the Cross, Suffered himself deadly throes, Of his will for sinners.tr. 2010 Richard B Gillion |
|