Dragwyddol Iôr, ar Dy orseddfainc wen, Wyt Frenin pawb goruwch ac is y nen, Addolwn Di, ymgrymwn i Dy hawl; Yn fflam Dy ras, O pura Di ein mawl! Pan oedd y nos a'r dymestl wedi'n cau, Ein ffydd yn wan, a'n hysbryd yn llescâu, Y nos âi'n ddydd, a'r dymestl giliai draw: Gwaredaist ni â'th hollallug law. Ein nefol Dad, mae myrdd o'th blant dan glwy, Yn wylo'n hallt am rai nad ydynt mwy: I'w calon friw rho'r balm a lledfa'u loes: Rho iddynt weld yr Hwn fu ar y groes. Perffeithia'th saint, a gwna hwynt oll yn un Yn rhwymyn tỳn Dy gariad pur Dy Hun; Doed byd i gyd i brofi'th hedd di-lyth, A'th enw mawr fo'n fendigedig byth!John Owen Williams (Pedrog) 1853-1932 Tôn [10.10.10.10]: Alwen (Gutyn Mawrth) |
Eternal Lord, on thy white throne, Thou art the King of all above and below the sky, We adore thee, we bow to thy right; In the flame of thy grace, O purify thou our praise! When the night and the tempest had closed us in, Our faith weak, and our spirit losing heart, The night was becoming day, and the tempest was retreating yonder: Thou didst deliver us with thy almighty hand. Our heavenly Father, there is a myriad of thy children wounded, Weeping bitterly for those who are no more: To their bruised hearts give the balm and relieve their anguish: Grant them to see him who was on the cross. Perfect thou thy saints, and make them all one In the tight bonds of thy own pure love; Let all the world come to experience thy unfailing peace, And may thy great name be blessed forever!tr. 2020 Richard B Gillion |
|