D'wêd i mi, a wyt yn maddeu Cwympo ganwaith i'r un bai? D'wêd a ddeui byth i galon Sydd yn methu 'difarhau? 'Beth yw pwysau'r beiau mwyaf Wyt yn faddeu? - o ba ri'? Pa un drymaf yw fy mhechod Ai griddfanau Calfari? Arglwydd! rhaid i mi gael bywyd; Mae fy meiau yn rhy fawr, Fy euogrwydd sy'n cydbwyso A mynyddau mwya'r llawr: Rhâd faddeuant, gwawria bellach, Gwna garcharor caeth yn rhydd, Fu'n ymdreiglo mewn tywyllwch, 'N awr i weled goleu'r dydd.William Williams 1717-91 Tôn [8787D]: Bethany (Henry Smart 1813-79) gwelir: Dros bechadur buost farw |
Tell me, art thou forgiving Falling a hundred times into the same fault? Tell, wilt thou ever come to a heart That is failing to repent? What is the weight of the greatest faults Thou art forgiving? - of what number? Which is the weightiest - is it my sins Or the groans of Calfari? Lord, I must get life! My sins are too great, My guilt is of equal weight To the greatest mountains of earth: Free forgiveness, dawns now, It sets the captive prisoner free, For one who was rolling in darkness, Now to see the light of day.tr. 2020 Richard B Gillion |
|