Dymuno 'r ydwyf dreulio Fy amser yn y byd, Bob dydd, bob awr, bob mynyd, I'th ganmawl di o hyd; I mi y perthyn diolch Hyd fyth i Iesu Grist, Am achub f'enaid gwirion O ddyfnder uffern drist. Gwell wyt i mi na'r bywyd, Hyfrytach yw dy wedd, Na dim ag sydd weledig Yr ochr yma i'r bedd; Un awr yn dy gyfeillach Can mil mwy gwerthfawr mae, Nag oesau maith di derfyn O bleser i'w fwynâu. A gwell y groes, y gw'radwydd, Y gwawd, a'r erlid trist, Y dirmyg a'r cystuddiau, Sy gyda Iesu Grist; Can's yn ei groes mae coron, Ac yn ei wawd mae bri, A phleser yn ei gariad, Sy fwy na'n daear ni.Casgliad o Salmau a Hymnau (Morris Davies) 1835 Tôn [7676D]: Berth (alaw Gymreig) |
Wishing I am to spend My time in the world, Every day, every hour, every minute, To extol thee always; To me it belongs to give thanks Forever to Jesus Christ, For saving my simple soul From the depth of sad hell. Better art thou to me than life, More delightful is thy countenance, Than anything that is visible This side of the grave; One hour in thy companionship Is a thousand times more precious, Than vast endless ages Of pleasure to enjoy. And better the cross, the shame, The scorn, and the sad persecution, The contempt and the afflictions, That are with Jesus Christ; Since in his cross is a crown, And in his scorn is honour, And pleasure in his love, That is greater than our earth.tr. 2022 Richard B Gillion |
|