Dyrchafaf lafar lef, Ar Ysbryd Glān y nef, Am grefydd gras; O maddeu meiau 'gyd, Tra byddwyf yn y byd, Rho brawf ar hyn o bryd, I'th waelaf wās. Ond imi gael mwynhad O'th gariad, Dwyfol Dad, Gwellhad yn llon; Pan doro gwawr y dydd, Caf ffoi yn ngoleu ffydd, Pob rhwyman ānt yn rhydd, O brudd-der bron. 'Dof fel yr aur yn bur, O'r gofid garw gur, A'r dolur dro; Fe dw'na'r hyfryd awr, Ca'i fyn'd o'r cystudd mawr, I le goruwch y wawr, Hyfrydol fro.Morris Davies, Penygarnedd. Llyfr Emynau 1837 [Mesur: 664.6664] |
I will raise a vocal cry, To the Holy Spirit of heaven, For the belief of grace; O forgive all my faults, While ever I am in the world, Grant an experience now today, To thy poorest servant. If only I get the enjoyment Of thy love, heavenly Father, Healing cheerfully; When the dawn of the day breaks, I shall get to flee in the light of faith, Every bond shall go free, From the sadness of a breast. I shall become, like the gold, pure, From the grief of a rough beating, And the sadness of time; The delightful hour shall shine, I shall get to leave the great tribulation, To a place high above the dawn, A delightful region.tr. 2024 Richard B Gillion |
|