Dywedodd anghrediniaeth, Do, wrthyf lawer gwaith, Am beido â blino'r Athro - Mae ofer fyddai 'ngwaith; Af at ei orsedd eto, Er dued yw fy lliw; Pwy ŵyr na chaf drugaredd? Un rhyfedd iawn yw Duw. [RJ] Os gwelir fi, bechadur, Ryw ddydd ar ben fy nhaith, Rhyfeddol fydd y canu, A newydd fydd yr iaith, Yn seinio "Buddugoliaeth," Am iachawdwriaeth lawn, Heb ofni colli'r frwydr Na bore na phrynhawn. [HS] - - - - - Dywedodd anghrediniaeth, Do, wrthyf lawer gwaith, Am beido â blino'r Athro - Mae ofer fyddai 'ngwaith; Af at ei orsedd eto, Er dued yw fy lliw; Pwy ŵyr na chaf drugaredd? Un rhyfedd iawn yw Duw. [RJ] Un yw yn medru maddeu Pechodau rif y gwlith; 'Does mesur ar ei gariad, Na therfyn iddo byth: Mae'n 'mofyn lle i dosturio, Yn hoffi trugarhâu; Trugaredd i'r ymddifad Sydd ynddo i barhâu. [DR] - - - - - Fe dd'wedodd anghrediniaeth, Do, wrthyf lawer gwaith, Am beido â blino'r Athraw, Mae ofer fyddai 'ngwaith: Af at ei orsedd eto, Er dued sy' fy lliw, Pwy ŵyr na châf drugaredd? Un rhyfedd iawn yw Duw. [RJ] - - - - - Fe ddwedodd anghrediniaeth, Do, wrthyf lawer gwaith, Am beidio blino'r Athraw, Mai ofer fyddai 'ngwaith: Af at ei orsedd eto, Er dued yw fy lliw, Pwy ŵyr na chaf drugaredd? Un rhyfedd iawn yw Duw. [RJ] Er iddo guddio'i wyneb Oddi wrthyf lawer pryd, Anturiaf ar 'i addewid, Can's ffyddlawn yw o hyd; Oblegid fe ddywedodd, Tra byddwyf ar fy nhaith, "Ni'th roddaf di i fyny, Ni'th lwyr adawaf chwaith." [JS]RJ: Robert Jones 1806-96 HS: Cas. Harri Sion 1773 DR: Cas. o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1837 JS: Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen & Jones) 1868
Tonau [7676D]: gwelir: Os gwelir fi bechadur |
Unbelief said, It did, to me many a time, Not to bother the Teacher - That useless would be my work; I shall go to his throne yet, Despite how black is my colour; Who knows that I shall not get mercy? A very wonderful one is God. If I, a sinner, am to be seen, Some day at my journey's end, Wonderful shall be the singing, And new shall be the language, Sounding "Victory," For full salvation, Without fearing losing the battle Either morning or evening. - - - - - Unbelief said, It did, to me many a time, Not to bother the Teacher - That useless would be my work; I shall go to his throne yet, Despite how black is my colour; Who knows that I shall not get mercy? A very wonderful one is God. He is one who can forgive Sins numerous as the dew; There is no measure to his love, Nor boundary to it ever: It asks for a place to be merciful, It loves to show mercy; Mercy to the destitute Is enduring within it. - - - - - Unbelief said, It did, to me many a time, Not to bother the Teacher, That useless would be my work: I shall go to his throne yet, Despite how black is my colour, Who knows that I shall not get mercy? A very wonderful one is God. - - - - - Unbelief said, It did, to me many a time, Not to bother the Teacher, That useless would be my work: I shall go to his throne yet, Despite how black is my colour, Who knows that I shall not get mercy? A very wonderful one is God. Although he hides his face From me on many an occasion, I shall venture on his promise, Since faithful he is always; Because he said, While I am on my journey, "I shall not give thee up, Nor completely leave thee either."tr. 2020 Richard B Gillion |
|