Dan fy maich o drwm euogrwydd

(Gorphwysfa yn Nghrist)
Dan fy maich o drwm euogrwydd,
  Teithio'n araf, llesg, a wnawn;
Ofn bob eiliad i lidiawgrwrdd
  Duw i ddisgyn ama' i'n llawn!
Gwel'd ei wedd, greodd hedd,
Laddodd ynwyf ofn y bedd.

Wedi 'stormydd geirwon enbyd,
  Wedi gwynt cynhyrfus cryf,
Yn ei ddystaw lef mae bywyd,
  Wna fy ysbryd llwfr yn hyf;
Defnydd nef sy'n ei lef,
Ddena f'enaid ato Ef.

Dyma'm nefoedd ar y ddaear,
  Ydyw gwedd ei wyneb llon,
Try annedwydd ddyffryn galar
  Yn Seceina ger fy mron;
Tyrd yn awr, Iesu mawr!
Tỳn fy mryd oddiwrth y llawr.

Pan fo tònau poen a blinder
  Yn cynhyrfu f'enaid trist,
Caf obenydd esmwyth, tyner,
  Yn addewid Iesu Grist;
Doed y byd ato i gyd,
Dyma gysgod tawel clyd.
Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937

Tôn [8787337]: Rheidol
    (J Roberts [Ieuan Gwyllt] 1822-77)

(A Resting-place in Christ)
Under my burden of heavy guilt,
  Travel slowly, feebly, I would;
Fear every second that the wrath
  Of God may descend upon me fully!
Seeing his face, who created peace
Who killed within me the fear of the grave.

After rough, angry storms,
  After strong agitated wind,
In his quiet cry is life,
  Which will make my coward spirit bold;
The stuff of heaven is in his cry,
That attracts my soul to Him.

Here my heaven on the earth,
  Is the countenance of his cheerful face,
It turns the hellish vale of mourning
  Into Shekinah before me;
Come now, great Jesus!
Draw my attention away from the earth.

When the waves of pain and grief are
  Agitating my sad soul,
I may get a soothing, tender pillow,
  In the promise of Jesus Christ;
Let all the world come to him,
Here is a secure, quiet shelter.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~