Darfydded i mi son Am ddim ond gwaed yr Oen, Yn haeddiant im'; Byth am ei ddwyfol glwy' Boed fy ngorfoledd mwy, Ne's elwy' i'r bywyd trwy Borth angeu llym. Mi dybiais unwaith fod I mi fyw faint o glod, Am ufuddhau; Gwirionedd mawr diball Mai'm twyllo'r oedd y fall Duw'm gwnaeth yn forwyn gall, Trwy drugarhau. Oddiar ei gariad mawr Ufudd-dod dardda 'nawr I'w gyfraith faith; Galaru a'i garu'n glos, Wrth gofio'i farwol lo's, Yn fyddlon gario'r gro's I ben fy nhaith. Rho i mi, Arglwydd mawr, Gael purdeb ar y llawr, Gwynfyd a'i cai'; Tan bechod blin yr wy', A hynny yw fy nghlwy', Y seintiau gwyn fyd hwy Ga's eu rhyddhau. Rhyfeddol gariad mawr, Cyn creu nef a llawr, Fyth yn parhau, At fath bechadur chwith, A haeddodd fod ymhlith Y damnedigion fyth, Heb eu rhyddhau. Tra caffwyf yma chwyth, Mi fola'n beraidd byth Iechyd fy oes; Fy Mhriod gwridog gwyn, Ar ben Calfaria fryn, A'm carodd yno'n llyn Ar bren y groes. Ar ei ddeheulaw mae Digrifwch yn parhau 'N dragwydd fry; Diddarfod ydyw'r 'stor A brynodd f'Arglwydd Ior, Cyn creu dae'r na môr, I'm henaid i. Er cael fy ngwawdio'n drist, Am ddilyn Iesu Grist, Gan blant y cnawd; Mae'm Priod wrth fy modd, Mi a'i mola byth ar g'o'dd, Fe roddodd i mi rodd, Ni byddaf dlawd.Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo, 1764. [Mesur: 664.6664] |
Let mention to me vanish Of anything but the blood of the Lamb, As a merit for me; Forever about his divine wound Be my rejoicing evermore, Until I go to the life through The portal of sharp death. I supposed once there would be For me a measure of praise, For obeying; Great unfailing truth That deceiving me was the evil one; God made me a wise virgin, Through having mercy. From his great love Obedience issues now To his extensive law; Mourning and loving him securely, On remembering his mortal anguish, Faithfully carrying the cross To my journey's end. Grant to me, great Lord, To get purity on the earth, Blessed is one who gets it; Under grievous sin I am, And that is my wound, The blessed saints, they Got freed. Great, wonderful love, Before heaven and earth's creation, Forever enduring, At such an awkward sinner, Who deserved to be amongst The condemned forever, Without their getting freed. While I have got here breath, I will praise sweetly forever The health of my lifespan; My ruddy, white Spouse, On the summit of Calvary hill, Who loved me there thus On the wood of the cross. At his right hand is Pleasure enduring In eternity above; Unfading is the store Which my Sovreign Lord purchased, Before creating earth or sea, For my soul. Although getting sadly scorned, For following Jesus Christ, By the children of the flesh; My Spouse is my delight, I will praise him forever publicly, He gave to me a gift, I shall not be poor.tr. 2017 Richard B Gillion |
|