Daw diwedd ar fy nhaith A'm pererindod trist, Gorphenna'm llafur waith, Caf orphwys gydâ'm Crist: O fewn ei gôl y gwnaf fy nyth, Ddychwelaf byth i'r byd yn ol. Pryd hynny mi af trwy Bob blinder, brad, a llid, Fy nhemtio ni's daw mwy, Na Satan, cnawd, na byd; Mewn newydd wedd caf fyn'd at Ion, O'r byd a'i boen i'r hyfryd wledd. Fe dderfydd mwyach son Am alar, tristwch, gwae, Y pechod câs a'r poen, I flino'r duwiol rai: (O hyfryd waith!) ond moli'm Ner Uwchlaw y ser, i oesoedd maith. Caf wel'd aneirif lu O bererinion glân, O fewn Caersalem fry, A ddaethant yno'm blaen; O ddeutu'r faingc yn moli'n hy' Fy Iesu cu, â pheraidd gaingc. Caf wel'd fy anwyl Dad F'arweiniodd ar fy nhaith, A'm carodd i yn rhad O dragwyddoldeb maith: A'r anwyl Oen fu drofof fi Ar Galfari mewn dirfawr boen. Caf fwytta uwch y nen Guddiedig fanna pur, Caf ddail y bywiol bren I laesu'm briw a'm cur; Mi fyddaf iach, mi gaf yn wir, Driagl pur wrth f'enaid bach. Wel, dyma'r hyfryd wlad, Paradwys nefol wiw, A thŷ fy anwyl Dad, Lle byddaf byth yn byw: Pa'm oedaf fyn'd? par'towyd fylle, O fewn i'r ne' gan fy anwyl Ffrynd.William Williams 1717-91
Tonau [666688]: |
An end shall come to my journey And my sad pilgrimage, The labour of my work shall finish, I will get to rest with my Christ: Within his bosom I will make my nest, I will never return back to the world. At that time I will go through Every grief, betrayal and anger, To tempt me shall not come any more, Either Satan, flesh, or world; In a new condition I will go to the Lord, From the world and its pain to the delightful feast. Mention shall henceforth cease Of mourning, sadness, woe, The hated sin and the pain, To grieve the godly ones: (O delightful work!) but to praise my Lord Above the stars, for vast ages. I will get to see an innumerable host Of holy pilgrims, Within Jerusalem above, Who arrived there ahead of me; Around the throne praising boldly My dear Jesus, with a sweet strain. I will get to see my beloved Father Who lead my on my journey, And loved me freely From a vast eternity: And the beloved Lamb who was for me On Calvary in enormous pain. I will get to eat above the sky Pure, hidden manna, I will get the leaves of the tree of life To ease my bruise and my ache; I shall be whole, I shall get truly, Pure balm on my little soul. See, here is the delightful land, A worthy, heavenly paradise, And the house of my beloved Father, Where I shall be forever living: Why shall I delay going? prepared is my place, Within heaven by my beloved Friend.tr. 2017 Richard B Gillion |
|