Daw tyrfa'n iach i'r nefoedd O deithio'r anial blin, O ganol maith dymhestloedd I hafaidd dyner hîn; Wrth lanio'n nhir y gwynfyd, Daw Duw i'w cwrddyd hwy, Yn swyn ei wenau hyfryd Nis gallant farw mwy! Mae marw ar y ddaear Yn chwerwi pob mwynhad Fe droir y gân yn alar I deulu'r anial wlad! Ond wedi cyrhaedd Canaan, Diangol ydynt hwy, Y'n hinsawdd Duw ei hunan Nis gallant farw mwy! Ni chyrhaedd awel angeu Hyd gyrion dinas Duw, Ni threiddia drwy ororau Y wlad o burdeb byw; Ni ddaw byth gwmwl adfyd A'i gysgod drostynt hwy, O deulu glan y gwynfyd! Nis gallant farw mwy! Mae bywyd yma'n ddefnyn Ond yno'n fôr fe fydd, Ceir yma'r gwan belydryn Ceir yno'r perffaith ddydd. Mae hiraeth arnom weithiau Am gyrhaedd gwlad ddiglwy, A chyfarch gwawr y boreu - Nas gallwn farw mwy!Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937
Tonau [7676D]: |
A multitude will come safely to heaven From traveling the wearisome desert, From the midst of great tempests To gentle summer weather; On landing in the land of blessedness, God shall come to meet them, In the charm of his lovely smiles They cannot die any more! Dying on the earth Makes bitter every enjoyment The song is turned to mourning For the family of the desert land! But after reaching Canaan, Undying shall they be, In the climate of God himself They cannot die any more! The breezes of death shall not reach As far as the corners of the city of God, It will not penetrate the borders Of the land of living purity; The cloud of adversity shall not bring Its shadow over them, From the holy family of the blessed They cannot die any more! Life here is a droplet But there a sea it shall be, Here there is a weak ray There there shall be the perfect day. Sometimes we have a longing To reach the disease-free land, And greet the dawn of the morning - We cannot die any more!tr. 2018 Richard B Gillion |
|