Ddiddanydd anfonedig nef Fendigaid Ysbryd Glân, Hiraethwn am yr awel gref A'r tafod tân. Erglyw ein herfyniadau prudd, Am brofi o'th rad yn llawn; Gwêl a oes ynom bechod cudd Ar ffordd dy ddawn. Cyfranna i'n heneidiau trist Orfoledd meibion Duw; A dangos inni eiddo'r Crist Yn fodd i fyw. Dy ddawn a ddeno'n doniau oll At allor Iôr ynghyd; Na foed o'n bywyd ddarn ar goll Ar ran y byd. Am wanwyn Duw dros anial gwyw Dynolryw, deffro'n llef; A dwg yn fuan iawn i'n clyw Y sŵn o'r nef. Rho'r hyder anorchfygol gynt Ddilynai'r tafod tân; Chwyth dros y byd fel nerthol wynt, O Ysbryd Glân.John Jenkins (Gwili) 1872-1936
Tonau [8684]: |
O Comforter sent from heaven Blessed Holy Spirit, We long for the the strong breeze And the tongue of fire. Listen to our earnest entreaties, For an experience of thy favour in full; See whether there is any hidden sin In the way of thy gift. Impart to our sad souls The rejoicing of the sons of God; And show to us the property of Christ As a means to life. It is thy gift which draws all our gifts Together to the Lord's altar; May there not be a piece of our life lost On the part of the word. For God's spring across the worthy desert Of humankind, awake our cry; And bring us very soon to hear The sound from heaven. Grant the former insuperable confidence Which would follow the tongue of fire; Blow across the world like a strong wind, O Holy Spirit!tr. 2014 Richard B Gillion |
|