Dduw Iôr ein tadau, nefol Dad, O achub a sancteiddia'n gwlad; Cysegra'n dyheadau ni I geisio dy ogoniant di. Ein twr a'n tarian ar ein taith A'n t'wysog fuost oesoedd maith; Rhoist yn ein calon ddwyfol dân Ac yn ein genau nefol gân. O atal rwysg ein gwamal fryd A gwared ni rhag twyll y byd; Â'th ras, ein calon cadarnha, A dyro brawf o'th 'wyllys da. O Ysbryd Glân, na foed i ni Oleuni ond d'oleuni di, Ac arwain bobloedd yn gytun I ogoneddu Mab y Dyn. O na chaem weld y rhyfedd ddydd I ninnau fynd o'n rhwymau'n rhydd Ac uno gyda nef a llawr Ym moliant ei ddyrchafael mawr.John T Job 1867-1938
Tonau [MH 8888]: |
Lord God of our fathers, heavenly Father, O save and sanctify our land; Consecrate our longings To seek thy glory. Our tower and our shield on our journey And our leader wast for long ages; Thou didst put in our heart divine fire And in our mouths a heavenly song. O stop the ostentation of our fickle intent And save us from the deception of the world By thy grace, establish our hearts, And give us proof of thy good will. O Holy Spirit, let there not be for us Any light but thy light, And lead peoples in agreement To glorify the Son of Man. O may we get to see the wonderful day For us to go free from our bonds And unite with heaven and earth In praise of his great exaltation.tr. 2009 Richard B Gillion |
|