Deffrown, deffrown, yn dyrfa fawr, I gwrdd â'r wawrddydd dlos; Mae'n olau dydd dros ddaear lawr, Aeth heibio'r dywyll nos: Mae Iesu yn ein galw ni, Yn galw pawb yn dorf ddi-ri, I'w ddilyn Ef yn hy I'r bryniau disglair fry. Deffrown, deffrown, fe dorrodd y wawr, Deffrown, deffrown, awn rhagom yn awr, Deffrown, deffrown, Dilynwn Iesu mawr. Fe'n harwain ni dros fryn a phant, Gwna'n olau'r dyffryn du; Awn drwy bob coed a thros bob nant, Gan goncro rhwystrau lu; A dringo wnawn yng ngrym Ei nerth Bob mynydd uchel, clogwyn serth, Nes cyrraedd gwlad y dydd, O bechod byth yn rhydd. Mae baner buddugoliaeth wen Yn llaw yr Iesu mwy; Efe yw arwr dae'r a ne Yn rhinwedd marwol glwy': Ac wrth Ei ddilyn, fe ddaw'r byd Yn lân a phur, yn hardd i gyd, Yn hardd fel blodau'r llawr, Yn bur fel golau'r wawr.W T Llynfi Davies 1876-1937 Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930
Tôn [8686.6655+9946]: Deffrown Deffrown |
Let us awake, awake, as a great throng, To meet with the pretty dawn of day; It is daylight across the earth below, The darkness of night went away: Jesus is calling us, Calling all as an innumerable host, To follow Him boldly To the shining hills above. Let us awake, awake, the dawn broke, Let us awake, awake, let us go onwards now, Let us awake, awake, Let us follow great Jesus. He is leading us over hill and hollow, He will make light the black vale; Let us go through every wood and across every stream, While conquering a host of obstacles; And let us climb in the force of His strength Every high mountain, steep cliff, Until reaching the land of day, From sin forever free. The white banner of victory is In the hand of Jesus evermore; He is the hero of earth and heaven In the merit of a mortal wound: And while following Him, the world shall come Holy and pure, all beautiful, Beautiful like the flowers of the earth below, Pure like the light of dawn.tr. 2019 Richard B Gillion |
|