Deuwch hil syrthiedig Adda

1,2,3,8,(9);  1,2,8,7;  1,3,4,5,6;  1,3,5,7;  1,3,(8,(9));  1,8,9.
[1] Deuwch, hil syrthiedig Adda,
  Daeth y Jubil fawr o hedd:
Galwad sydd ar bawb o'r enw
  I fwynhau tragwyddol wledd;
    Bwrdd yn llawn, yma gawn,
  O foreuddydd hyd brydnawn.

[2] Dewch y deillion, dewch y cloffion,
  Dewch y gwywedigion rai,
Ymadewch o'r blaen ag oeddych
  Yn cael pleser i'w fwynhau;
    Chwi gewch win, nefol rin;
  Yma i yfed yn ddibrin.

[3] Ceisiwch wisgoedd y briodas,
  Gwisgoedd hyfryd, hardd eu lliw;
Nid oes enw teilwng arnynt,
  Ond cyfiawnder pur fy Nuw;
    Llian gwyn yw'r rhai hyn,
  Weuwyd ar Galfaria fryn.

[4] Mae'r efengyl wen yn curo,
  Ac yn codi baner gras,
Mewn rhyw filoedd o ardaloedd,
  Ar y mynydd, yn y maes;
    Y mae llef, bur y nef,
  Yn cyhoeddi ei haeddiant ef.

[5] Da i mi fod yr addewid,
  Wedi ei rhoddi gan fy Nuw,
A bod gair o enau'r brenin,
  Uwch gelynion o bob rhyw;
    Ei 'ddewid ef, gadarn gref,
  A arwain eiddil gwan i'r nef.

[6] Minnau'r gwana o'r pererinion
  Yn y diwedd rhof fy nhroed,
Ar y graig sydd yn y moroedd
  Y graig gadarna a fu erioed;
    Ceidw hon, ar bob ton,
  Ofnau drwg o tan fy mron.

[7] O gwna i mi brofi sypiau,
  Sypiau peraidd
      rawn y wlad.
Blas maddeuant pur a heddwch,
  Gwleddoedd hyfryd tŷ fy Nhad:
    Dyma hwy, perlau mwy,
  Glodd'wyd yn ei farwol glwy'.

[8] Dyma wledd
      y cewch ddanteithion,
  Yma cewch faddeuant rhad;
Yma cewch chwi brofi cariad,
  Hedd yn nofio yn y gwaed;
    Dewch yn awr, dyrfa fawr, 
  Ac eisteddwch yma i lawr.

[9] Yma cewch chwi wel'd y ffynnon,
  Dwr a gwaed yn afon fawr,
O'r archollion wnaeth y bicell,
  Ar Galfaria'n dod i lawr,
    Cewch lanhad a iachâd,
  Cewch eich beiau tan eich traed.
y Jubil :: yr Iwbil
Galwad sydd ar :: Galw'r ydys :: 'R ys yn galw :: Galwad llawn (sy) i
Llian gwyn yw'r rhai hyn :: Lliain main ydyw'r rhain
Weuwyd ar Galfaria fryn :: Sydd yn cuddio pob rhyw staen
brofi cariad :: brofi'r cariad

William Williams 1717-91

Tonau [8787.337]:
Pant y Celyn (<1835)
Groeswen (J A Lloyd 1815-74)
Holstein (J C Bach 1642-1703)
Ireiddiol (W B Bradbury 1816-1868)
Moldavia (alaw Ellmynig)
Neander / Unser Herrscher Joachim Neander 1650-80
Talgarth (D Jenkins 1849-1915)

gwelir: Mae'r efengyl fwyn yn curo

[1] Come, descendants of fallen Adam,
  The great Jubilee of peace has come:
There is a call on everyone of the name
  To enjoy an eternal feast;
    A full table, here we may have,
  From morning until evening.

[2] Come ye blind, come ye lame,
  Come ye withered ones,
Renounce what ye previously were
  Having plesure in enjoying;
    Ye may have wine, a heavenly essence;
  Here to drink copiously.

[3] Seek wedding garments,
  Delightful garments, beautiful in colour;
There is no worthy name on them,
  But the pure righteousness of my God;
    White linen are these,
  Woven on Calvary hill.

[4] The blessed gospel is knocking,
  And raising a banner of grace,
In some thousands of regions,
  On the mountain, in the field;
    There is a cry, heaven pure,
  Announcing his merit.

[5] Good to me that the promise has,
  Been given by my God,
And that a word from the king's mouth is,
  Higher than enemies of every kind;
    His promise, firm, strong,
  Will lead the feeble weak to heaven.

[6] I myself the weakest of the pilgrims
  In the end will place my foot,
On the rock which is in the seas
  The firmest rock that ever was;
    This will save, on every wave,
  Of evil fears beneath my breast.

[7] Oh make me experience clusters,
  The sweet clusters
      of the grapes of the land.
A taste of pure forgiveness and peace,
  The delightful feasts of my Father's house:
    Here they are, larger pearls,
  Excavated in his mortal wound.

[8] Here is a feast
      where ye may have delicacies,
  Here ye may have free forgiveness;
Here ye may experience love,
  Peace swimming in the blood;
    come now, a great throng, 
  And sit down here.

[9] Here ye may get to see a well,
  Of water and blood as a great river,
From the wounds the spear made,
  From Calvary coming down,
    Ye may have cleansing and healing,
  You may have your faults under your feet.
::
A call which is on :: A call to be :: It is a call :: A full call (which is) to
White linen are these :: Fine linen are these
Woven on Calvary hill :: Which cover every stain
experience love :: experience the love

tr. 2010 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~