Deuwch canwn fawl i Dduw

1,2,3,6;  1,2,4,5.
Deuwch, canwn fawl i Dduw,
Graslawn a thrugarog yw;
  Mae Ei gariad yn ddidrai,
  A'i ffyddlondeb yn parhau.

Deuwch a dyrchafwn Ef,
Gyda saint ac engyl nef;
  Mae Ei gariad yn ddidrai,
  A'i ffyddlondeb yn parhau.

Offrwm wnaeth Ei Fab Ei hun,
Er cael ffordd i gadw dyn;
  Mae Ei gariad yn ddidrai,
  A'i ffyddlondeb yn parhau.

Lleinw'n holl angenion ni;
Caru mae ein gwylaidd gri:
  Mae Ei gariad yn ddidrai,
  A'i ffyddlondeb yn parhau.

Arwain gynt ein tadau wnaeth
Drwy y môr o'r wlad oedd gaeth:
  Mae Ei gariad yn ddidrai,
  A'i ffyddlondeb yn parhau.

Unwn oll mewn llawen floedd,
Rhown Ei foliant Ef ar goedd;
  Mae Ei gariad yn ddidrai,
  A'i ffyddlondeb yn parhau.
Parch Edward Roberts, Pontypridd.

Tonau [7777]:
Hendon (H A C Malan 1787-1864)
Innocents (The Parish Choir 1850)

Come ye, let us sing praise to God,
Gracious and merciful he is;
  His love is unebbing,
  And his faithfulness enduring.

Come ye and let us exalt Him,
With the saints and angels of heaven;
  His love is unebbing, 
  And his faithfulness enduring.

And offering His Son Himself made,
In order to get a way to save man;
  His love is unebbing,
  And his faithfulness enduring.

He will fill all our needs;
Loving he is our reverent cry:
  His love is unebbing,
  And his faithfulness enduring.

Lead of old our fathers he did
Through the sea from the land which was captive:
  His love is unebbing,
  And his faithfulness enduring.

Let us all unite in a joyful shout,
Let us render praise to Him publicly;
  His love is unebbing,
  And his faithfulness enduring.
tr. 2014,15 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~