Dewch, frodyr, un fryd, Moliannwn ynghyd Ein Priod a'n Prynwr, Iachawdwr y byd: Ein swydd a fydd sôn Am gariad yr Oen, A ddygodd ein penyd, Oddefodd ein poen. Yr Oen fydd ein cân, Fe safodd o'n bla'n, A'i ras fe'n attaliodd, - Fe'n tynodd o'r tân; Duw mawr ydoedd E', Yr Arglwydd o'r ne', A ddaeth fel Oen llariaidd I farw yn ein lle. Tra byddom ni fyw, Ein dyled ni yw Mynegi rhinweddau A doniau Mab Duw. Fe ddaeth yn Ŵr tlawd, Fe gymerth ein cnawd, I fod yn Waredwr I ni, ac yn Frawd; Llu nefoedd a llawr, Moliennwch E'n awr, Am roi, dros ei ddefaid, Ei fywyd i lawr. Fe ddygodd trwy'i waed Dragwyddol ryddhad I hen garcharorion Yn gaethion a gaed: I'r bywyd fe'n dwg O gyrraedd pob drwg, Er maint yw dichellion Gelynion, a'u gwg. Fe ddygodd :: Ennillodd
Tonau [5565D]: |
Come, brothers, of one intent Let us praise together Our Husband and Redeemer, The Saviour of the world: Our job shall be to sound For love of the Lamb, Who bore our penance, Who endured our grief. The Lamb shall be our song, He stood before us, With his grace he halted us, - He pulled us from the fire; Great God was He, The Lord of heaven, Who came like a gentle Lamb To die in our place. While we live, Our duty is To express the merits And gifts of the Son of God. He came as a poor Man, He took our flesh, To be a Deliverer To us, and a Brother; Ye host of heaven and earth, Praise Him now, For laying, for his sheep, His life down. He brought through his blood Eternal freedom To old prisoners Who were taken captive: To the life he had brought us From the reach of every evil, Though great are the deceptions Of enemies, and their scorn. He brought :: He won tr. 2009,19 Richard B Gillion |
Come, brethren, uniteHowell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953 Sweet singers of Wales, 1889.
|