Dewch i weithio, dewch i weithio, Dydd cynhaua'r nefoedd yw; Gyda miloedd i gyduno Yn achubiaeth dynolryw: Mae y cnydau yn addfedu, Cnydau y cynhauaf mawr; Ac mae'r meusydd yn ymledu - Dewch i weithio, dewch yn awr! Dewch i weithio, hyfryd ydyw Gweithio awr yng ngwaith y nef; Mae y byd yn galw heddyw, Uwch o hyd y dyrcha'i lef: Mae y meusydd yn cynhyddu, Meusydd y cynhauaf mawr, Mae y gwaith yn ychwanegu - Dewch i weithio, dewch yn awr! I'r cynhauaf dewch i weithio, Gweithio enyd hyfryd yw - Treulio'n dyddiau i fendithio, I gysuro dynol ryw: Y mae llwyddiant i goroni Llafur y cynhauaf mawr; Mae y gwaith bob dydd yn ta'u - Dewch i weithio, dewch yn awr.Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905 Tôn [8787D]: Dewch i weithio (John Price 1857-1930) |
Come to work, come to work, The day of the harvest of heaven it is; With thousands to unite In the rescue of humankind: The crops are maturing, The crops of the great harvest; And the fields are spreading - Come to work, come ye now! Come to work, delightful it is To work now in the work of heaven; The world is calling today, Loudly still it is lifting its cry: The fields are thriving, The fields of the great harvest; The work is increasing - Come to work, come ye now! To the harvest come to work, The work of a delightful moment it is - To spend our days to bless, To comfort human kind: There is success to crown The labour of the great harvest; The work every day is paying - Come to work, come ye now!tr. 2016 Richard B Gillion |
|