Diderfyn yw Dy ras, fy Nuw, A hawddgar yw Dy lwybrau; Y nos a ffŷ yng ngoleu gwawr Diddanwch mawr Dy ddoniau. I'th gafell gad i minnau ddod Am gymod a maddeuant; Caf yno weld y ffordd yn glir I sanctaidd dir gogoniant. Yn sŵn cyfiawnder Calfari Tawelir cri fy nghaon; Ac ar y ffordd i Ben y Bryn Caf gwmni gwyn angylion! Ymffrostiaf yn y groes o hyd Er gwg y byd a'i soriant; A chanaf byth am brofi blas Y gras a drŷ'n ogoniant. Mae trugareddau gras i gyd Ar fywyd yn defnynnu, Am fod y nefoedd wen yn llawn O ddwyfol Iawn yr Iesu. Daw hyfryd lais efengyl gras A'r ddaear las i'w feddiant; A'i gariad wêl yr anial du Yn gwynnu gan ogoniant.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: MS8787] |
Endless is Thy grace, my God, And beautiful are Thy paths; The night shall flee in the light of dawn The great comfort of Thy gifts. To thy sanctuary let me come For reconciliation and forgiveness; There I will get to see the way clearly To the holy land of glory. In the sound of the righteousness of Calvary The cry of my heart is to be silenced; And on the road to the Top of the Hill I will get the company of bright angels! I will boast in the cross constantly Despite the frown of the world and its indignation; And I will sing forever about experiencing a taste Of the grace that will turn into glory. All the mercies of grace are On life dripping, Since the bright heaven is full Of the divine Atonement of Jesus. The delightful voice of the gospel of grace shall come And the blue-green earth to possess it; And his love shall see the black desert Whitening with glory.tr. 2016 Richard B Gillion |
|