Digonir fy enaid newynog â grâs; Mae'r afon yn loyw a'r doldir yn frâs; Ac yn fy nghyfyngder gwrandewir fy nghri - Yr Iôr sydd yn Fugail gwastadol i mi. Arweinir fy nghamrau foreuddydd a nawn I ganol cyflawnder o urddas a dawn; Arweiniwr y bydoedd, a Lluniwr eu bri, Efe sydd yn Fugail gwastadol i mi. Caf orwedd yn dawel mewn gwelltog borfeydd, A glannau'r afonydd fydd imi'n rhodfeydd; Y Duw sydd yn llanw y nefoedd â bri, Efe sydd yn Fugail a Noddwr i mi.Caniedydd yr Ysgol Sul 1899 Tôn [11.11.11.11]: Hyfrydwch (1897 D Lewis) |
My hungry soul shall be satisfied with grace; The river is shining and the meadows fat; And in my straits my cry is heard - The Lord is a constant Shepherd to me. My steps are led morning and afternoon To the centre of fulness from dignity and talent; The Leader of the worlds, and Designer of their honour, He is a constant Shepherd to me. I will get to lie quietly in grassy pastures, And the banks of rivers shall be avenues to me; The God who is filling the heavens with honour, He is a Shepherd and Protector to me.tr. 2016 Richard B Gillion |
|