Dim ond trugaredd rad

(Yr Unig Obaith)
Dim ond trugaredd rad
  A rydd ryddhad i'm calon;
A gwaed yr Oen all lwyr iachâu
  Fy holl ddoluriau chwerwon.

Fy ngholli byth a gaf,
  A marw wnaf mewn galar,
Heb gael dy ras, a phrofi'th hedd,
  A gwel'd dy wedd groesawgar.

Gosodaf hyder llawn
  Yn dy gyfiawnder perffaith;
Edrychaf tua'r groes o hyd,
  Yn daer am iechydwriaeth.
Benjamin Francis 1734-99

Tonau [MBC 6787]:
    Bryneglwys (J H Roberts 1848-1924)
    Glasfryn (J A Lloyd 1815-74)
    Trefriw (J H Roberts 1848-1924)

gwelir: O Arglwydd trugarhâ!

(The Only Hope)
Only gracious mercy
  And free liberty to my heart,
And the blood of the Lamb can completely heal
  All my bitter sorrows.

Lost forever I shall be,
  And die I shall in mourning,
Unless I get thy grace, and taste thy peace,
  And see thy welcome countenance.

I shall put full confidence
  In thy perfect righteousness;
I shall look towards the cross always,
  Intently for salvation.
tr. 2012,14 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~