Diolch am ddatguddiad dwyfol, Gair y digelwyddog Dduw, Gair y cymod, i mi'r euog, Gair yr iechydwriaeth yw; Ynddo gwelwn berffeithderau 'R Dywdod mewn gogoniant mawr, Yn arbediad, ac achubiaeth Pechaduriaid gwaetha'r llawr. Gwell nag aur, a gwell nag arian, Yw Dy air, O Dduw, i mi; Ymhyfrydu byddo'm henaid Beunydd yn Dy gyfraith Di. Rho oleuni, fel y gwelwyf Bethau rhyfedd D'air o hyd: Plyg f'ewyllys i'w ddylanwad, Ato sugna'm serch a'm bryd.William Williams 1717-91 [Mesur: 8787D] gwelir: Dyma Feibil annwyl Iesu Gwell nag aur a gwell nag arian |
Thanks for divine revelation, The word of the unlying God, The word of reconciliation, to me the guilty, The word of salvation it is; In it we see the perfections Of the Godhead in great glory, In sparing, and saving The worst sinners of the earth. Better than gold, and better than silver, Is Thy word, O God, to me; Delighting be my soul Daily in Thy law. Give light, so shall I see Wonderful things of Thy word always: Bend my will to its influence, To it suck my affection and my attention.tr. 2015 Richard B Gillion |
|