Dodaf fy yspryd yn dy law

Salm XXXI
[5] Dodaf fy yspryd yn dy law,
  Ac âf gerllaw i orwedd;
Da y gwaredaist fi yn fyw,
  O Arglwydd Dduw'r gwirionedd.

[7] Mi ymhyfrydaf ynot ti;
  Canfuost fi mewn amser,
Ac adnabuost wrth fy rhaid,
  Fy enaid mewn cyfyngder.

[19] O mor fawr yw dy rad di drai
  A roist i'r rhai a'th ofnant!
Cai o flaen meibion dynion glod,
  Ac ynod ymddiriedant.

[24] Cymmerwch gysur yn Nuw Ion,
  Ef a rydd galon ynoch;
Ac os gobeithiwch ynddo Ef,
  Ei law yn gref bydd drosoch.
Edmund Prys 1544-1623

Tôn [MS 8787]: Ann's (<1835)

gwelir: Mi ymddiriedais ynot Ner

Psalm 31
[5] I will put my spirit in thy hand,
  And I will go soon to rest;
Well thou didst deliver me alive,
  O Lord God of the truth.

[7] I will delight myself in thee;
  Thou didst espy me in time,
And wast acquainted with my need,
  My soul in distress.

[19] O how great is thy unfailing favour
  Which thou hast set for those who fear thee!
It will receive praise before the sons of men,
  And in thee they will trust.

[24] Take comfort in God the Lord,
  He will bestow a heart within you;
And if you hope in Him,
  His hand will strongly be over you.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~