'Does neb ond Ef, fy Iesu hardd, A ddichon lanw 'mryd; Fy holl gysuron byth a dardd O'i ddirfawr angau drud. 'Does dim yn gwir ddifyrru f'oes Helbulus yn y byd Ond golwg mynych ar y groes, Lle talwyd Iawn mewn pryd. Mi welaf le mewn marwol glwy' I'r euog guddio'i ben, Ac yma llechaf nes mynd drwy Bob aflwydd is y nen. Yr Iawn a dalwyd ar y groes Yw sylfaen f'enaid gwan; Wrth bwyso arno ddydd a nos 'Rwyn disgwyl dod i'r làn.1-3:William Edwards 1773-1853 4 :William Jones 1764-1822 priodolwyd hefyd i William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Mi welaf le mewn marwol glwy Yr Iawn a dalwyd ar y groes |
There is no-one but He, my beautiful Jesus, Who sufficiently fills my mind; All my comforts forever will spring From his immense costly death. Nothing truly entertains my life Troubled in the world But a frequent look on the cross, Where my Ransom was paid once. I see a place in a fatal wound For the guilty to hide his head, And there to hide until going through Every misfortune under the sky. The Ransom that was paid on the cross Is the foundation of my weak soul; while leaning on him day and night I expect to come to the shore.tr. 2009 Richard B Gillion |
|