'Does neb drwy'r nefoedd hawddgar heb
'Does neb trwy'r nefoedd hawddgar heb

(Rhan II)
'Does neb drwy'r
    nefoedd hawddgar heb
  Ei bresennoldeb rhydd;
Pob angel, seraph, a phob sant,
  A'i gwelant yn ddi-gudd:
Mae pob un yno yn ei ŵydd,
Yn canu'n llafar gyda llwydd,
Ac yn mawrhâu eu syml swydd,
  Gael moli'r Arglwydd mawr.

'R ŷ'm ninnau i gyd
    drwy'r byd heb ball,
  Hawdd ddeall, yn ngŵydd Duw;
Oll yn ymsymud dan y rhôd,
  Yn bôd, ac ynddo'n byw:
Nis gallwn wneyd mewn dirgel le,
Un math o fai nas gwel Efe,
Drwy'r byd yn awr, ac yn y ne',
  Mae, wele, ar un waith!

Ein holl feddyliau da a drwg,
  Sydd amlwg iddo Ef;
A phob ochenaid ddystaw iawn,
  Fe'i clyw mor llawn a'r nef:
Fe edwyn galon dyn heb goll,
A'i fwriad oll, ofered yw,
Mae'r chwant yn weithred cyn ei gwneyd,
  Hawdd dweyd yn nghyfrif Duw.
drwy'r nefoedd hawddgar :: trwy'r nefoedd hawddgar
Gael moli'r :: O moli'r

Edward Jones 1761-1836

Tôn [8686.8886]: Abernant (<1875)

gwelir:
  Rhan I - Mae'n llond y nefoedd llond y byd
  Rhan III - Clyw f'enaid tlawd mae genyt Dad
  Llon'd nefoedd fawr a llon'd y byd

(Part 2)
There is no-one throughout
    the beautiful heavens without
  His ready presence;
Every angel, seraph, and every saint,
  Shall see him unconcealed:
Every one there is in his presence, is
Singing aloud with success,
And magnifying their simple office,
  Getting to praise the great Lord.

We too are all throughout
    the world without fail,
  Easily understanding, in the face of God;
All moving under the sky,
  Being, and in him living:
We cannot do in a secret place,
Any kind of fault that He does not see,
Throughout the world now, and in heaven,
  Yes, see, at once!

All our thoughts good and bad,
  Are evident to Him;
And every very quiet groan,
  He will hear as fully as heaven:
He will know a man's heart without mistake,
And all his intent, vain it is,
The desire is an action before doing it,
  Easy to tell in the account of God.
::
Getting to praise the :: Of praising the

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~