Dôs yn dy flaen yn wrol

1,2,3,(4).
Dôs yn dy flaen yn wrol,
  Hi wawria maes o law;
Yn adeg profedigaeth
  Dy Arglwydd fydd gerllaw;
Os du a thrwm yw'r cwmwl,
  A'r mellt yn lluchio braw,
Dôs yn dy flaen yn wrol,
  Hi wawria maes o law.

    Dôs yn dy flaen,
    Dôs yn dy flaen,
    Dôs yn dy flaen yn wrol,
      Hi wawria maes o law.

Dôs yn dy flaen yn wrol,
  Fe ddaw goleuni cry',
O byrth y ddinas euraidd
  I d'wynu arnat ti;
Er fod dy ffryndiau'n cefnu,
  A'r byd yn cilio draw,
Dôs yn dy flaen yn wrol,
  Hi wawria maes o law.

Dôs yn dy flaen yn wrol,
  A myna wneyd dy ran,
A dal, o ganol tònau,
  Dy lygad at y làn;
Ymlaenaf at y porthladd
  Yr Iesu'i hunan ddaw;
Dôs yn dy flaen yn wrol,
  Hi wawria maes o law.

Dôs yn dy flaen yn wrol,
  Mae gwlêdd yn nhŷ dy Dad,
Lle mae dan aur goronau
  Dy hen gyfeillion mâd;
Yn fuan cei gyduno
  A hwythau'r ochr draw:
Dôs yn dy flaen yn wrol,
  Hi wawria maes o law.
Thomas Levi 1825-1916
Trysorfa y Plant 1871

Tonau [7676D]:
  Dos yn dy flaen (George Frederick Root 1820-95)
  Dos yn dy flaen (Joseph Parry 1841-1903)

Go thou forward bravely,
  Dawn will break soon;
In the time of trial
  Thy Lord will be at hand;
If black and heavy is the cloud,
  And the lightning is flinging terror,
Go thou forward bravely,
  Dawn will break soon.

    Go thou forward,
    Go thou forward,
    Go thou forward,
      Dawn will break soon.

Go thou forward bravely,
  The strong light will come,
From the portals of the golden city
  To shine upon thee;
Although thy friends be turning their backs,
  And the world retreating yonder,
Go thou forward bravely,
  Dawn will break soon.

Go thou forward bravely,
  And insist on doing thy part,
And keep, from the middle of waves,
  Thy eye at the shore;
I will head for the harbour
  Jesus himself will come;
Go thou forward bravely,
  Dawn will break soon.

Go thou forward bravely,
  There is a feast in thy Father's house,
Where there are under gold crowns
  Thy good old friends;
So thou wilt get to unite
  With them on the far side:
Go thou forward bravely,
  Dawn will break soon.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~