Dragwyddol/Tragwyddol hollalluog Iôr

1,2,(3),4,5,6.
(Gweddi dros y byd)
Dragwyddol, hollalluog Iôr,
  Creawdwr nef a llawr,
O gwrando ar ein gweddi daer
  Ar ran ein byd yn awr.

O!'r golud anchwiliadwy sydd
  Yn nhrysorfeydd dy ras,
Diwalla reidiau teulu dyn
  Dros wyneb daear las.

Pob llwyth ac iaith a chenedl sydd,
  O! cymer yn Dy law:
Gwareda hwy rhag gwneuthur drwg,
  A chadw'u gelyn draw.

Yn erbyn pob gormeswr cryf
  O cymer blaid y gwan;
Darostwng ben y balch i lawr
  A chod y tlawd i'r lan.

Bendithia holl dylwythau dyn
  Â rhyddid pur a hedd,
A gad i bawb gael byw heb ofn
  Dan nawdd
      dy ddwyfol wedd.

Ymostwng atom yn dy ras,
  O gwrando ar ein cri,
Ac mewn trugaredd, Arglwydd Iôr,
  Yn dirion ateb ni.
R J Derfel 1824-1905

Tonau [MC 8686]:
    Ballerma (alaw Ysbaenaidd)
    Erfyngar (Joseph Parry 1841-1908)
    Martyrdom (Hugh Wilson 1766-1824)
    St Magnus (Jeremiah Clarke 1668-1707)
    St Mary (1621 Salmydd Edmwnd Prys)
    Richmond
        (T Haweis 1734-1820, S Webbe c.1770-1843)
    Reudsburg (alaw Almaenaidd)
    Weimar (Lowell Mason 1792-1872)

(Prayer for the world)
Eternal, almighty Lord,
  Creator of heaven and earth,
O listen to our earnest prayer
  On behalf of our world now.

Oh, the light unsearchable which is
  As treasuries of thy grace,
Satisfy the needs of the family of man
  Across the face of the blue/green earth.

Every tribe and language and nation there is,
  O take in Thy hand!
Deliver them from doing evil,
  And keep their enemy away.

Against every strong oppressor
  O take the side of the weak;
Bring down the head of the proud
  And raise up the poor.

Bless all the tribes of man
  With freedom pure and peace,
And grant that all may live without fear
  Under the protection
      of thy heavenly countenance.

Condescend to us in thy grace,
  O listen to our cry,
And in mercy, Lord Master,
  Tenderly answer us.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~