Duw yw fy Nhad boed iddo'r clôd

(Duw yn cynnal)
Duw yw fy Nhad, boed iddo'r clôd
Am iddo 'ngharu cyn fy môd;
  Cryf yw fy Nghyfaill i, a'm Pen,
  A'm gwlad artrefol sy uwch y nen.

Fry mae fy nhrysor pur di-lŷth,
A'r goron gâf fi wisgo byth;
  Fe sugnodd nefoedd Duw fy mryd,
  Nes wyf yn ddieithr yn y byd.

Myrdd o fy mrodyr anwyl sy
Yn gorphwys yn y nefoedd fry;
  'Nghyfeillion goreu sydd mewn hedd,
  Yn canu'r ochr draw i'r bedd.

Hyd yma'm deliaist drwy Dy ras,
Duw! dâl fi eto o hyn i maes;
  Cryfha fy ysbryd ar fy nhaith,
  I lanio dros ddyfnderoedd maith.

Mi ddringais greigydd er yn wàn;
Rhyfeddu'r wyf sut de's i'r làn;
  Tebygol fod fy mhwys i fry,
  Yn ddirgel ar f'Anwylyd cu.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
    Beza (<1869)
    Eisenach (J H Schein 1586-1630)
    Margaret (T J Price 1875-)
    Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
    Sebastian (D Vetter / J S Bach)

(God helping)
God is my Father, to him be acclaim
For loving me before my being;
  Strong is my Friend, and my Head,
  And my homeland is above the sky.

Above is my pure, unfailing treasure,
And the crown I will get to wear forever;
  God's heavens suckled my intention,
  Until I am a stranger in the world.

Myriads of my dear brothers are
Resting in the heavens above;
  My best friends are in peace,
  Singing on the far side of the grave.

Thus far thou hast held me through Thy grace,
God, hold me yet from now on!
  Strengthen my spirit on my journey,
  To land across the vast depths.

I climbed rocks although weak;
I am amazed how I came up;
  Likely that I lean up
  Secretly on my dear Beloved.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~