Duw mawr i ba u(w)chder

(Angylion yn gweini)
Duw mawr, i ba uwchder
  Gogoniant a stad,
Y llawen ddyrchafwyd
  Dy unig Fab rhad;
Angylion yn ngwisgoedd
  Tanbeidiol y nef,
A wnaethpwyd yn weision
  I'w orsedd hardd Ef.

Angylion anfonir
  I dywys ein traed,
Ar hyd y ffordd union
  Yn mlaen i dŷ'n Tad;
Trwy'r amryw beryglon
  Sy'n llawn yn mhob lle,
O hyd i'n cyfarfod
  Wrth deithio i'r ne'.
(Yr Ail Rhan)
Pan byddwyf yn gadael
  Y babell bridd hon,
Pan ddaw y gorchymyn
  Im' ddyfod ger bron;
Dduw, anfon angel
  Caredig o'r nef,
I dywys fy enaid
  Yn ddiogel i dref.
Casgliad o dros Ddwy Fil o Hymnau (Samuel Roberts) 1841

[mesur: 6565D]

(Ministering Angels)
Great God, to what height
  Of glory and estate,
Of the joy was raised
  Thy only, gracious Son;
Angels in the fiery
  Garments of heaven,
Were made servants
  To His beautiful throne.

Angels are to be sent
  To lead our feet,
Along the direct way
  Onwards to our Father's house;
Through various perils
  Which are fully everywhere,
Always meeting us
  While travellin to heaven.
(The Second Part)
When I shall be leaving
  This tent of soil,
When the command comes
  For me to come before;
God, send a loving
  Angel from heaven,
To lead my soul
  Safely home.
tr. 2016 Richard B Gillion
(Ministering Angels)
Great God, to what glory
  and lofty estate
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~