Duw, rho 'mi awel canu, Duw, rho 'mi ysbryd bryw; Os caf fi ond Dy Ysbryd Y nefoedd fawr a glyw. Dy Ysbryd wna imi seinio Nefolaidd gân a sef Heb flino na diffygio Wrth gynnes awel nef. Dy Ysbryd sy'n diddanu, Dy Ysbryd ddaw a gwres, Dy Ysbryd ddaw a'm henaid I'r nefoedd wen yn nes. Dy Ysbryd sy'n goleuo, Dy Ysbryd sy'n bywhau, Dy Ysbryd sydd yn puro, Sancteiddio a dwfwrhau. Dy Ysbryd sydd yn cynnal Y baban gwan ei ras; Myfi yw un o'r rheini Sy'n ofni colli'r ma's. Dy Ysbryd sy'n gwasgaru Y tew gymylau mawr; 'R wyf finnau 'ngrym yr Ysbryd Yngadarn fel y cawr. Dy Ysbryd sy'n datguddio Rhyw hardd drysorau drud Na chenfydd llygaid natur - Cuddiedig iawn i'r byd. Dy Ysbryd sydd yn ennyn Pur gynnes, nefol dan, Dy Ysbryd pur yn unig Sydd yn melysu 'nghan.1787 Dafydd William
Tonau [8787D]: |
God, give me a breeze to sing, God, give me a strong spirit; I if have but Thy Spirit The great heavens will hear. Thy spirit will make me sound A heavenly song and stand Without wearying or tiring By the warm breeze of heaven. It is Thy Spirit who comforts, Thy Spirit brings warmth, Thy Spirit brings my soul To the blessed heavens nearly. It is Thy Spirit who lightens Thy Spirit who revives, Thy Spirit who purifies, Sanctifies and waters. It is Thy Spirit who holds The baby weak his (g)race; I myself am one of those Who are afraid of losing the field. It is Thy Spirit who spreads The great, thick clouds; I myself am strong in the Spirit Steadfast like the giant. It is Thy Spirit who discloses Some costly, beautiful treasures The natural eye will not discern - Hidden indeed to the world. It is Thy Spirit who enkindles Pure warmth, heavenly fire, Thy pure Spirit alone Who sweetens my song.tr. 2008 Richard B Gillion |
|