Dy alwad, Geidwad mwyn, Mor daer a thyner yw: Mae ynddi anorchfygol swyn, Fy Mrenin wyt a'm Duw. Dilynaf, doed a ddêl, Yn ôl dy gamre glân, A'm bedydd sydd yn gywir sêl, Cyfamod diwahân. Y drymaf groes i mi Fydd mwy yn hawdd i'w dwyn Wrth gofio'r groes i Galfarî A ddygaist er fy mwyn. I ti fy hunan rof Drwy broffes lân, ddi-lyth, A boed ei hystyr yn fy nghof Ac yn fy nghalon byth. - - - - - Dy alwad, Geidwad mwyn, Mor daer a thyner yw: Mae ynddi anorchfygol swyn, A hiraeth calon Duw. Dilynaf, doed a ddêl, Yn ôl dy gamrau glân, Ac yn fy medydd rhoddaf sêl, Cyfamod diwahân. Y drymaf groes i mi Fydd mwy yn hawdd i'w dwyn Wrth gofio'r un i Galfari; A ddygaist er fy mwyn. I ti fy hunan rof Drwy broffes lân, ddilyth, A boed ei hystyr yn fy nghof Ac yn fy nghalon byth.William Griffith Owen (Llifon) 1857-1922
Tonau [MB 6686]: |
Thy call, gentle Saviour, So earnest and tender is: There is in it insuperable charm, My King thou art and my God. I will follow, come what may, After thy holy footsteps, And my baptism will be truly a seal, Of an unbreakable covenant. The heaviest cross to me Will be easier to bear While remembering the cross of Calvary Which thou didst bear for my sake. To thee I will give myself Through a holy, unfailing profession, And may its meaning be in my memory And in my heart forever. - - - - - Thy call, gentle Saviour, So earnest and tender is: There is in it the insuperable charm, And the longing of God's heart. I will follow, come what may, After thy holy footsteps, And in my baptism I will give a seal, Of an unbreakable covenant. The heaviest cross to me Will be easier to bear While remembering the one to Calvary Which thou didst bear for my sake. To thee I will give myself Through a holy, unfailing profession, And may its meaning be in my memory And in my heart forever.2008,10 Richard B Gillion |
|