Dy drugaredd dêg ragorol, O'r trag'wyddol Arglwydd Dduw! Yw y pur ddaioni penaf, Arni byth y byddaf byw: Mae'th drugaredd yn rhagori, Ar oleuni'r haul-wen hardd; Fy holl felys wir orfoledd O'th drugaredd di a dardd. Gwell nâ'r byd, a gwell nâ'r bywyd, Yw dy hyfryd hedd i mi, Ni's gall dim ddigoni nghalon, Ond dy dirion gariad di: Os caf fi dy bresenoldeb, A goleuni'th wyneb glân, Llawenaf tan ergyd angau Ynot ti, er diodde'r tân. O am ganfod yn y gwynfyd, Dy wynebpryd hyfryd di! Golwg eglur ar fy Arglwydd Rhydd hapusrwydd byth i mi: Profi'th gariad yn dragywydd Fydd fy mawr lawenydd maith, A'th glodfori di yn felys, Fydd fy ngorfoleddus waith.Casgliad o Bum Cant o Hymnau (D Jones) 1810 - - - - - Dy drugaredd rad a chyflawn, O! drag'wyddol Arglwydd Dduw! Yw fy etifeddiaeth benaf, Arni byth y byddaf byw; Mae'th drugaredd yn rhagori, Ar oleuni'r haulwen hardd; Fy nhawelwch a'm gorfoledd O'th drugaredd di a dardd. Gwell na'r byd, a gwell na'r bywyd, Yw dy hyfryd hedd i mi; Ni all dim ddigoni nghalon, Ond dy dirion gariad di: Ond os caf dy bresenoldeb, A mwynhau dy siriol wedd; Gallaw lawenhau yn angau, Dianc heb arswydo'r bedd.Dafydd Jones 1770-1831 Casgliad E Griffiths 1855 - - - - - Dy drugaredd dêg ragorol, Fy nhragwyddol Arglwydd Dduw, Yw y pur ddaioni penaf, Arni byth y byddaf byw: Ei phrydferthwch sy'n rhagori Ar oleuni'r haulwen hardd; Fy holl felys wir orfoledd O'th drugaredd fyth a dardd. Gwell na'r byd, a gwell na'r bywyd, Yw dy hyfryd hedd i mi; Nis gall dim foddloni 'nghalon, Ond dy dirion gariad di: Ond im' gael dy bresenoldeb, A goleuni'th wyneb-pryd, F'enaid gwan gaiff orfoleddu Wrth wynebu'r bythol fyd.Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [8787D]: Edinburgh (alaw Gymreig) |
Thy excellent fair mercy, From the eternal Lord God! Is the chief, pure goodness, Upon it forever I shall life: Thy mercy is exceeding The light of the beautiful sunshine; All my sweet, true rejoicing Will spring forever from thy mercy. Better than the world and better than the life, Is thy delightful peace to me; Nothing can satisfy my heart, But thy tender love: If I get thy presence, And the light of thy holy face, I will rejoice until death strikes In thee, despite suffering the fire. O to perceive in the bliss, Thy delightful countenance! A clear vision of my Lord Ready happiness forever for me: To experience thy love in eternity Will be my vast, great joy, And to praise thy sweetly, Will be my jubilant work. - - - - - Thy mercy free and full, O eternal Lord God! Is my chief inheritance, Upon it forever I shall live; Thy mercy is superior, To the beautiful light of the sun; My quietness and my rejoicing From thy mercy shall spring. Better than the world, and better than life, Nothing can satisfy my heart, But thy tender love: But if I get thy presence, And to enjoy thy cheerful face; I can rejoice in death, Whole, without being horrified at the grave. - - - - - Thy excellent fair mercy, My eternal Lord God, Is the chief pure goodness, On it forever I shall live: Its beauty is exceeds The light of the beautiful sunshine; All my sweet, true rejoicing Will spring forever from thy mercy. Better than the world and better than the life, Is thy delightful peace to me; Nothing can satisfy my heart, But thy tender love: Only for me to get thy presence, And the light of thy countenance, My weak soul will get to rejoice On facing the everlasting world.tr. 2011,16 Richard B Gillion |
|