Dy glwyfau yw fy rhan

1,2,(3);  1,2,4.
(Crist yn bopeth / Crist a'i gyflawnder)
Dy glwyfau yw fy rhan,
  Fy nhirion Iesu da;
Y rhai'n yw nerth fy enaidd gwan,
  Y rhai'n a'm llwyr iachâ:
Er saled yw fy nrych,
  Er tloted wyf yn awr,
Fy llenwi gâf â llawnder Duw,
  A'm gweled fel y wawr.

Mi brofais Dduw yn dda,
  Fy nhirion raslawn Dad,
Yn maddeu im' fy meiau mawr,
  Yn rhwydd o'i gariad rhad:
Fe'm seliodd i mewn hedd,
  Rhyfeddol yw ei ras!
Fe'm bwydodd i â manna pur,
  Mewn gwledd o hyfryd flas.

Cyfiawnder marwol glwyf,
  A haeddiant dwyfol loes,
Y pris, y gwerth, yr aberth drud
  A dalwyd ar y Groes,
A gliria 'meiau'n llwyr,
  A'm gylch yn hyfryd lân
Ac nid oes arall dan y nef
  A'm nertha i fynd ymlaen.
William Williams 1717-91

Tonau [MBD 6686D]:
Aberdar (Alaw Ellmynig)
Olewydd / Olivet (J B Dykes 1823-76)
Eden (Ieuan Gwyllt 1822-77)
Ethel (John Price 1857-1930)
  Goppa (David Vaughan Thomas 1873-1934)

Tonau [MB 6686]:
  Falcon Street (<1835)
Shawmut (Lowell Mason 1792-1872)

gwelir:
Cyfiawnder marwol glwy
Mi a ddarfyddaf mwy
Mi brofais Dduw yn dda
Mi ẁn i Grist mi ẁn

(Christ as everything / Christ and his fullness)
Thy wounds are my lot,
  My good, gentle Jesus;
They are the strength of my weak soul,
  It is they that heal me completely:
Despite the sickness of my condition,
  Despite how poor I now am,
I will get my filling with God's fullness,
  And my appearance like the dawn.

I experienced God as good,
  My tender, gracious Father,
Forgiving me my great faults,
  Freely of his gracious love:
He established me in peace,
  Wonderful is his grace!
He fed me with pure manna,
  In a banquet of delightful taste.

The righteousness of a fatal wound,
  And the merit of divine anguish,
The price, the worth, the costly sacrifice
  That was paid on the Cross,
Will clear my faults entirely,
  And wash me delightfully clean;
And there is nothing else under heaven
  That will strengthen me to go on.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~