Dy law sydd arnom, O! ein Duw, Er hynny clyw ein llef; Ac arbed ni, fel byddom byw Yn uniawn lwybrau'r nef. Ciliasom oll o'th gysgod Di, Mewn rhyfyg aflan, ffôl; O! maddau'n beiau aml eu rhi', A derbyn ni yn ôl. Er haeddu Dy geryddon llym O herwydd maint ein bai; Nid yw'th drugaredd yn ddi-rym, Na'th ryfedd ras yn llai. Tor dros ein hannheilyngdod mawr, Hoff gennyt drugarhau; Na fwrw ni'n dy lid i lawr, Ond tyred i'n bywhau. Na ddigia wrthym, nefol Dad, Na ddos i farn â ni; Tosturia eto wrth ein gwlad, A chofia Galfaria.W Evans Jones (Penllyn) 1854-1938
Tonau [MC 8686]: |
Thy hand is upon us, O our God, Therefore hear our cry; And save us, while we live In the straight paths of heaven. We have all retreated from Thy shadow, In foolish, unclean presumtuousness; Oh forgive our manifold faults, And receive us back. Despite deserving Thy sharp rebuke Because of the extent of our sin; Thy mercy is not powerless, Nor thy amazing grace any less. Break across our great unworthiness, Thou dost love mercy; Do not cast us down in thy anger, But come to revive us. Do not be angry with us, heavenly Father, Do not bring us to judgment; Have mercy again on our land, And remember Calvary.tr. 2011 Richard B Gillion |
|