Dy nerthol air Iôn oddi fry

1,2,(3);  1,2,(3),4,5.
(Cysuron y Gair / Cysuron yr Ysgrythur)
Dy nerthol air, Iôn, oddi fry
  A bery yn oes oesoedd,
Tydi wyt wedi cadarnhau,
  Dy eiriau yn y nefoedd.

Mor werthfawr yw dy air a'i rîn,
  Mewn cystudd blin a chroesau;
Fe droir wylofain trist yn gân,
  Ar lwybr glân dy ddeddfau.

Gobeithiaf yn y gair o hyd
  Yn nghanol byd o ddychryn;
Mae'n gysgod rhag y gwynt a'r gwres,
  Mae'n lloches rhag y gelyn.

Er teimlo ei fin,
    ei nerth, a'i rym,
  Fel cleddyf llym yn rhwygo;
Er hyn, mae
    olew, gwin, a hedd,
  Oes, ac ymgeledd ynddo.

Yn niwedd taith
    yr anial dir,
  A garo'r gwir
      gaiff goron;
Try llafur ffydd,
    wrth air y llw,
  Yn elw i'r duwiolion.
Yn niwedd taith :: Mae gwobrwy yn
Try llafur ffydd :: Bydd llafur ffydd

Richard Jones ?1771-1833

Tonau [MS 8787]:
Altona/Silesia (As Hymnodus Sacer 1625)
Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
Dyfroedd Siloah (J Williams [Ioan Rhagfyr] 1740-1821)
Ely (Thomas Turton 1780-1864)
Gwilym (Tom Price 1857-1925)
Mary (J A Lloyd 1815-74)
Paradwys (Rees Williams 1846-1934)
Sabbath (J Williams [Ioan Rhagfyr] 1740-1821)

gwelir: Fy etifeddiaeth werthfawr yw

(The Comforts of the Word / The Comforts of the Scriptures)
Thy strong word, Lord, from above
  Will endure in an age of ages,
Thou hast established
  Thy words in the heavens.

How valuable is thy word and its virtue,
  In wearisome affliction and crosses;
Sad wailing is to be turned into song,
  On the holy path of thy laws.

I will hope in the word always
  In the midst of a world of terror;
It is a shade from the wind and the heat,
  It is a refuge from the enemy.

Despite feeling its edge,
    its strength, and its force,
  Like a sharp sword rending;
Despite this, there is
    oil, wine, and peace,
  Yes, and help in it.

At the end of the journey
    of the desert land,
  One who loves the truth
      shall obtain a crown;
The labour of faith shall turn,
    by the word of the oath,
  Into gain for the godly.
At the end of the journey of :: It is a reward in
The labour of faith shall turn :: The labour of faith shall be

tr. 2012,17 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~