Dyma'r dydd y ganed Iesu, Dyma'r dydd i lawenhau; Arglwydd nef a ddaeth i brynu Dynol-ryw, a'u llwyr ryddhau. Gwelwyd Iesu mewn cadachau, Iddo preseb oedd yn grud, Bu yn wan fel buom ninnau - Seiliwr nefoedd faith a'r byd. Daeth o wlad y pur ogoniant, Daeth o wychder tŷ ei Dad, Prynodd ef i bawb a'i carant Deyrnas nef yn rhodd, yn rhad. Dyma gariad haedda'i gofio Mewn anfarwol gân ddi-lyth; Yn y cariad hwn yn nofio Boed fy enaid innau byth. Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846
Tonau [8787]:
Tôn [8787D]: Dusseldorf (F Mendelssohn / J Roberts) |
This is the day Jesus was born, This is the day to rejoice; The Lord of heaven has come to purchase Humankind and their complete freedom. Jesus was seen in swaddling cloths, A cradle to him was the manger, He was weak as were we - The founder of the vast heavens and the world. He came from the land of the pure glory, He came from the excellence of his Father's house, He bought for all who love him The kingdom of heaven as a free gift. Here is love that deserves to be remembered In a never-failing, immortal song; Swimming in this love May my own soul be forever. tr. 2009 Richard B Gillion |
|