Dyma'r dydd y cododd Iesu, Gan chwilfriwio barrau'r bedd; Dyma'r dydd i orfoleddu, Ac i gadw sanctaidd wledd. B'le, O fedd, mae'th fuddugoliaeth? Angau, b'le mae'th golyn cry'? Daeth i wawrio ar ddynoliaeth Hyfryd lewych oddi fry. Crist a ddaeth yn wir oleuni, Ac yn sicrwydd bywyd gwell; Caf yn llawen adgyfodi, Ar ryw ddydd, o'r gyfyng gell. Dan y gwys os rhaid im' orwedd, Yn y glyn dros ronyn bach; Mi gaf ddiosg rhwymyn llygredd, Ac yn Nuw gyfodi'n iach. Codi'n iach a hwylio'r aden, Rhwng y sêr i wlad y saint; I ddyrchafu'r gân ddi orphen, Yno byth uwch poen a haint.Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 Gwinllan y Bardd 1831 Tôn [8787]: Düsseldorf (F Mendelssohn / J Roberts) [Mesur: 8787D] |
This is the day on which Jesus rose, Shattering the bars of the grave; This is the day for jubilation, And for keeping a holy feast. Where, O grave, is thy triumph? Death, where is thy strong sting? There came to dawn on humankind A delightful radiance from above. Christ came as a true light, And as a surety of a better life; I will get joyfully to rise again, On some day, from the narrow cell. Under the sod if I must lie, In the vale for a little while; I may get an escape from a corrupt bond, And in God rise up whole. Rising whole and soaring on wings, Between the stars to the land of the saints; To raise the unending song, There forever above pain and disease.tr. 2013 Richard B Gillion |
|