Dyna pam yr wy'n hiraethu Beunydd tua'r nefoedd fry; Oddi yno yr anadlwyd Bywyd pur 'm henaid i: P'odd gorphwysaf? Rhaid i'm hysbryd fyn'd i'r lan. Anian nef a dyr trwy rwystrau, Anian nef a dyr trwy'r tân; Ceidw'i gyrfa trwy'r creadur At ei gwreiddyn pur yn mlaen; Heibio i degwch, At y tegwch gwir ei hun. Nid yw harddwch maith y ddaear, Harddwch o amrywiol ryw, Tegwch disglaer y ffurfafen, Ddim yn ochr Iesu, 'm Dduw; Mae'n diflanu 'R holl greadigaeth wrth dy wedd. Dirmygedig yw gogoniant Oll a welais etto'n un, Pan edrychwyf ar ogoniant Fy Nghreawdwr mawr yn ddyn; Diddim, diddim, Oll a enwir ond efe.William Williams 1717-91
Tonau [8787447]: gwelir: Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd |
That is why I am longing Daily for the heavens above; From there was breathed The pure life of my soul: How shall I rest? My spirit needs to go up. The nature of heaven will break through obstacles, The nature of heaven will break through the fire; It will keep its course through creation Onward to its pure root; Beyond to comeliness, To the true comeliness itself. Neither the vast beauty of the earth, Beauty of various kinds, Nor the shining comeliness of the firmament, Is anything beside Jesus, my God; Disappearing is The whole creation in thy sight. Scorned is the glory Of all I have yet seen the same, When I look on the glory Of my great Creator as man; Nothing, nothing, Is all to be called but him.tr. 2011 Richard B Gillion |
|