Dynered yw Dy fron

(Dagrau'r Iesu)
Dynered yw Dy fron,
  O! rasol Geidwad;
Gwyn fyd a welodd don
  Dy gydymdeimlad;
Ar draeth Dy welw rudd
Y torrai'n ddistaw brudd,
O ddwfn eigionau cudd
  Dy ddwyfol gariad.

Dy galon sy'n parhau
  Yn llawn tosturi;
A'th Ysbryd yn tristau
  Uwch ben trueni;
Er uched yw Dy sedd
Aflonydd yw Dy hedd
Wrth weled ar y bedd
  Galonau'n torri.

Mae bywyd yn Dy law,
  A'r bedd yn olau;
Ac angau'n cilio draw
  Yn swn Dy ddagrau;
Dy gydymdeimlad mawr
Sy'n dod o'r nef i lawr,
A'r dagrau'n troi yn awr
  Yn gān i minnau.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Y Cymro

[Mesur: 6565.6665]

(The Tears of Jesus)
How tender is Thy breast,
  O gracious Saviour!
Blessed is one who saw the wave
  Of thy sympathy;
On the beach of thy pale cheek
Breaking as sad silence,
From the deep, hidden ocean
  Of thy divine love.

Thy heart continues to be
  Full of pity;
And thy Spirit is saddened
  Beyond misery;
Despite how high is Thy seat
Rivers is Thy peace
On looking on the grave
  Hearts breaking.

There is life in Thy hand,
  And the grave light;
And death retreating yonder
  At the sound of Thy tears;
Thy great sympathy
Which is coming down from heaven,
And the tears turning now
  Into a song for me.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~