Dioddefod ar y pren
Dyoddefod ar y pren

(Afon gras)
Dyoddefod ar y pren
  I hoelio'i ddwylo a'i draed;
Trywanwyd idd ei ystlys bur,
  Daeth allan ddwr a gwaed;
Fel caffai'r dua ei liw
  Ei gànu'n hyfryd wyn,
Mewn afon bur o waed a dw'r
  Ddylifodd ar y bryn.

O'r afon loew hon
  Tardd cysur o bob rhyw,
Mil o rasusau hyfryd pur,
  Fel blodeu clir eu lliw;
Er bod pob llwyth ac iaith,
  Finteioedd maith yn nghyd,
Yn dirwyn at y dyfroedd hyn,
  Cânt dd'od yn wyn i gyd.

Mae'r deillion yma'n gwel'd,
  A'r cloffion hefyd sydd,
Wedi cael hollol lwyr iachâd,
  Yn llamu a'u traed yn rhydd:
Mae rhai sy' a ffiaidd friw,
  Uwch meddyg i'w hiachâu,
Yn cael, wrth brofi'r bywiol ddw'r,
  Eu gwella a'u glanhau.
William Williams 1717-91

Tôn [MBD 6686D]: Pererin (alaw Gymreig)

gwelir: Mae'n decach yn ei wedd

(River of grace)
He suffered on the tree
  His hands and his feet being nailed;
He was wounded in his pure side,
  Water and blood came out;
Thus the blackest in colour may get
  Bleached delightfully white,
In a pure river of blood and water
  Which gushed on the hill.

From this bright river
  Issues comfort of every kind,
A thousand delightful, pure graces,
  Like flowers of clear colours;
So that every tribe and tongue,
  Vast hosts together,
Winding towards these waters,
  May become all white.

Here the blind see,
  And the lame also are,
Having been made completely whole,
  Leaping with their feet free:
Those who have a terrible wound,
  A chief physician to heal them,
Getting, while experiencing the living water,
  Healed and cleansed.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~