Dyrchafwn glod yn awr drwy ffydd
Dyrchafwn glod yn awr yn rhydd

(Emyn Boreol / Gweddi Foreol)
Dyrchafwn glod yn awr yn rhydd
  Am olau'r dydd naturiol;
Gan foli Duw, ein nefol Dad,
  Am bob rhyw rad ysbrydol.

Mae golau dydd a thywyll nos
  Yn dangos gallu dwyfol;
Pob peth o dan ac uwch y rhod
  Sy'n dweud am Fod anfeidrol.

Mae'n tywallt arnom, fawr a mân,
  Fendithion glân Rhagluniaeth;
Mae'n cynnig i holl bobloedd byd
  Ei dirion iachawdwriaeth.

Am hynny, rhown ein hufudd gred,
  A'n holl ymddiried ynddo;
Cawn felly nawdd
    ein Tad o'r nef,
  A chydag Ef orffwyso.
yn rhydd :: drwy ffydd

David Thomas (D Ddu Eryri) 1759-1822

Tonau [MS 8787]:
    Allmaen (Corâl Almaenig)
    Cemaes (John Williams 1740-1821)
    Eisenach (J H Schein 1586-1630)
    Ely (Thomas Turton 1780-1864)
    Gwynle (J Charles McLean 1875-1952)
    Mary (John Ambrose Lloyd 1815-74)
    Sabbath (John Williams 1740-1821)

(Morning Hymn / Morning Prayer)
Let us raise praise now freely
  For the light of the natural day;
By praising God, our heavenly Father,
  For every kind of spiritual favour.

Light of day and dark night are
  Showing divine power;
Every thing below and above the sky
  Is speaking of the infinite Being.

He pours upon us, great and small,
  Pure blessings of providence;
He offers to all the peoples of the world
  His tender salvation.

Therefore, let us give our obedient faith,
  And all our trust to him;
Thus we may have the protection
    of our Father from heaven,
  And with Him rest.
freely :: through faith

tr. 2010 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~