Dyro inni dy arweiniad, Arglwydd, drwy yr oedfa hon; Rho dy Ysbryd a'i ddylanwad I'n sancteiddio ger dy fron: Nefoedd yw dedwydd fyw Dan dy wenau di, O Dduw. Byw yng ngwên dy siriol ŵyneb Ewyllysiwn yn y byd, A chael oesoedd tragwyddoldeb I fawrhau dy gariad drud; Dyro i lawr, yma nawr, Ernes o'r gyfeillach fawr.Robert Meigant Jones (Meigant) 1851-99
Tonau [878767]: |
Give us thy guidance, Lord, through this meeting; Impart thy Spirit and his influence To sanctify us before thee: Heaven it is happily to live Under thy smiles, O God. To live in the smile of thy cheerful face We wish in the world, And to have eternal ages To magnify thy dear love; Give down here, now An earnest of the great fellowship.tr. 2009 Richard B Gillion |
|