Dysgwyliais wrth yr Arglwydd

1,2,(3).
Dysgwyliais wrth yr Arglwydd,
  Yn ebrwydd daeth o'r nef;
O'r pydew gwnaeth fy nghodi -
  Yn llwyr fe glybu'm llef:
Fy nhraed ar graig gosododd,
  Yn mlaen fe'm hwyliodd i,
Rhoes yn fy ngenau hefyd
  Gān hyfryd i'n Duw ni.

Mi glywsom lais oddi uchod -
  "'Rwy'n dyfod," medd Oed Duw
Yn rhôl ysgrifeniadau
  "Y gwirioneddau gwiw;
Dy gyfraith sy'n fy nghalon" -
  Chwi filiau duon dewch,
Atebiad hyd yr eitha'
  Ar ben Golgotha gewch.

Wel dyma'r hên addewid
  A gadwodd rif y gwlith
O ddynion wedi'u colli,
  A gān am dani byth;
Er cael ein mynych glwyfo
  Gan bechod îs y nen,
Iachêir ein holl archollion
  A dail y bywiol bren.
Thomas Williams (Eos Gwynfa / Eos y Mynydd) c.1769-1848

gwelir: Pechadur wyf O Arglwydd

I waited for the Lord,
  Swiftly he came from heaven;
From the pit he did raise me -
  Completely he hears my cry:
My feet on a rock he set,
  Forwards he sailed me,
He put in my mouth also
  A delightful song to our God.

We heard a voice from above -
  "I am coming," said the Lamb of God
In a roll of scriptures
  "The worthy truths;
Thy law is in my heart" -
  Ye black thousands, come!
An answer to the uttermost
  On the summit of Golgotha ye may get.

See, here is the old promise
  Which left numbers like the dew
Of lost men,
  With a song about it forever;
Despite getting our manifold wounding
  By sin under the sky,
All our wounds to be healed
  With the leaves of the lively tree.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~