Edrych 'r wyf, a hynny beunydd, A hiraethu am y wawr, Pryd y derfydd im â pechod, Ac y caf roi 'meichiau i lawr, Y caf ddihuno ar dy ddelw, Fan caf wel'd dy ŵyneb gwiw, Pan caf foli byth heb dewi, A bod yn debyg byth i'm Duw. Fy natur egwan sydd yn soddi, Wrth deimlo prawf o'th ddwyfol hedd; Ac yn boddi gan ryfeddod, Wrth edrych 'chydig ar dy wedd: O! am gorff, a hwnnw'n rymus, I oddef pwys gogoniant Duw; Ac i'w foli byth heb dewi, A chydag Ef dragwyddol fyw.Thomas Charles 1755-1814
Tonau [8787D]: gwelir: Gwelais 'chydig o'r ardaloedd Wedi cefnu pob rhyw stormydd |
Looking I am, and that daily, And longing for the dawn, When my sins will vanish for me, And I get to lay my burdens down, I shall get to awaken in thy image, When I get to see thy worthy face, When I get to praise forever without falling silent, And be forever like my God. My weak nature is sinking, On feeling the experience of thy divine peace; And drowning with wonder, While looking a little on thy countenance: O for a body, and that strong, To suffer the weight of the glory of God; And to praise him forever without falling silent, And with him eternally to live.tr. 2019 Richard B Gillion |
|