Ein dyled yw dyrchafu clod

(Ymostyngiad Crist)
Ein dyled yw dyrchafu clod
  Y grasol Fod anfeidrol;
Am sylwi ar bechadur gwael
  Mae'n haeddu cael ei ganmol.

Mae'n Esgob mwyn, mae'n Fugail da,
  Diwallu wna eneidiau;
I geisio'r goll oedd lesg a chaeth,
  I'r ddaear daeth yn ddiau.

Bu fyw a marw er ein mwyn,
 Gwnaeth ffordd i'n dwyn yn rasol;
Er grym gofidiau
    daear lawr
  I'r lle mae'n awr yn eiriol.
Casgliad Samuel Roberts 1841
             - - - - -
(Mawl i'r Arglwydd)
Ein dyled yw dyrchafu clod
  Y grasol Fôd anfeidrol;
Am sylwi ar deueiniaid gwael,
  Mae'n haeddu cael ei ganmol.

O Arglwydd, aed dy enw mawr
  Uwch nef a llawr mewn moliant;
Cyhoedded pawb drwy'r byd,
    'r un wedd,
  Dy fawedd, a'th ogoniant.

Rho imi'th wel'd, O Frenin hedd,
  Fry yn dy ryfedd degwch,
A chanu byth, ar beraidd dant,
  Ogoniant dy hawddgarwch.
Rho imi :: Rho i ni

Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tonau [MS 8787]:
Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
Glanceri (D Emlyn Evans 1843-1913)
Sabbath (John Williams 1740-1821)

gwelir:
  O Arglwydd aeth dy enw mawr
  O Arglwydd Dduw bydd inni'n borth
  Rho'wn fawl i'n Duw ar felus dôn

(The Submission of Christ)
Our duty is to raise the acclaim
  Of the gracious, infinite Being;
For regarding a base sinner
  He is deserving to get lauded.

He is a gentle Bishop, he is a good Shepherd,
  Satisfy he will souls;
To seek the lost who were faint and captive,
  To the earth he came doubtless.

He lived and died for our sake,
  He made a way to lead us graciously;
Despite the force of the griefs
    of the earth below
  To the place where he is now interceding.
 
                  - - - - -
(Praise to the Lord)
Our duty is to raise the acclaim
  Of the gracious, infinite Being;
For regarding base wretches,
  He is deserving to get lauded.

O Lord, let thy great name go
  Above heaven and earth in praise;
Let all publish throughout the word,
    in the same manner,
  Thy majesty, and thy glory.

Grant me to see thee, O King of peace,
  Up in thy wonderful fairness,
And sing forever, on a sweet chord,
  The glory of thy beauty.
Grant me :: Grant us

tr. 2015 Richard B Gillion

 















 
                  - - - - -
 





O Lord, our Lord, how wondrous great
  Is Thine exalted name!
The glories of Thy
    heav'nly state
  Let men and babes proclaim.





 

Isaac Watts 1674-1748

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~