Er cael cyfeillion hoff Ymadael maent o hyd, Ond digyfnewid yw Y Cyfaill gorau i gyd; Ei gariad a'i ffyddlondeb maith A'm cynnal i ar ddyrys daith. Mae'r golau sy'n ei wedd Yn troi y nos yn ddydd; Ac ar ei gadarn fraich Mi ddof o'm hofnau'n rhydd; Gorchfygodd allu'r byd a'r bedd Heb gymorth arfog lu a chledd. Mae'n Feddyg sy'n iacháu Archollion dyfna'r fron; A phan derfysgo'r môr Mae'n llywodraethu'r don; Pe llosgai'r byd, pe syrthiai'r nen, Cawn ar ei fynwes bwyso 'mhen.D J Morgan 1876-1950 Tôn [666688]: Rhosymedre (John D Edwards 1805-85) |
Although having dear friends They are always leaving, But unchangeable is The best friend altogether; His love and his vast faithfulness Uphold me on a troublesome journey. The light that is in his countenance Is turning the night into day; And on his firm arm I shall come from all my fears free; He overcame the powers of the world and the grave Without help of armed force and sword. He is a Physician who is healing The deepest wounds of the breast; And when the sea grows tumultuous He is ruling the wave; If the world should burn, if the sky should fall, On his bosom I might lean my head.tr. 2021 Richard B Gillion |
|