(Croesi yr Iorddonen)
Er dyfned yw'r Iorddonen,
Rhaid imi groesi hon;
Wrth feddwl am ei thònau,
Mae ofnau dan fy mron:
Ond im' gael nabod Iesu,
A'm carodd cyn fy mod,
Af trwyddi'n ddigon tawel,
A'r gwaelod dan fy nhroed!
Casgliad o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
- - - - -
Hen afon yr Iorddonen!
Rhaid imi groesi hon;
Wrth feddwl am ei dyfnder,
Mae arswyd dan fy mron;
Ond im' gael 'nabod Iesu,
A'm carodd cyn fy mod,
Af trwy-ddi'n ddigon tawel,
A'r gwaelod dan fy nhroed.
Paham yr ofna'i'r afon,
Wrth weled grym y dŵr?
Mae'r gwaelod wedi ei g'ledu,
A'r Iesu'n flaenaf Gŵr!
Yr afon goch lifeiriol
A darddodd dan ei fron, -
Mae miloedd yn myn'd adref
Yn ngrym yr afon llon.
Llawlyfr Moliant 1880
Tonau [7676D]:
Ardudwy (<1876)
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)
Jabez (alaw Gymreig)
Llydaw (alaw Lydawig)
gwelir:
Bendithion ar fendithion
Paham yr ofna'i'r afon?
Pwy rydd im falm Gilead?
Ymado wnaf â'r babell
Yr afon goch lifeiriol
|
(Crossing the Jordan)
Although so deep is the Jordan,
I must cross this;
While thinking about its waves,
There are fears under my breast:
If only I get to know Jesus,
Who loved me before I was,
I will go through it sufficiently quietly,
With the bottom under my foot!
- - - - -
The old river of the Jordan!
I must cross this;
While thinking about its depth,
There is horror under my breast;
If only I get to know Jesus,
Who loved me before I was,
I will go through it sufficiently quietly,
With the bottom under my foot!
Why do I fear the river,
While seeing the force of the water?
The bottom has been hardened,
And Jesus the foremost Man!
The red, flowing river
That issued under his breast, -
Thousands are going home
In the force of the cheerful river.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|