Er fy nghlwyfo gan fy mhechod, A fy nghadael yn fy mriw, Anffaeledig Feddyg parod Ydwyt Ti, fy Iesu gwiw; Llif o fywyd yw Dy eiriau, Heulwen bywyd yw Dy wedd; Yn Dy wyddfod ni all angau Gadw'r maen ar ddrws y bedd. O! Samariad, tyred heibio, Paid ā throi Dy wyneb draw; Gād i druan clwyfus deimlo Fod ymgeledd yn Dy law; Gwag yw'r byd o gydymdeimlad, Ac ni wrendy ar fy nghri; Unig obaith yr amddifad, Feddyg enaid, ydwyt Ti. Ti berffeithiwyd yn Dywysog Ichawdwriaeth er fy mwyn, Yn Dy fynwes fawr drugarog Y mae balm i leddfu 'nghwyn; 'Rwyt yn deall fy noluriau, Gelli wella'r dyfnaf un; Aeth y cleddyf a'i ofidiau Drwy Dy galon Di Dy Hun.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 8787D] |
Although being wounded by my sin, Has left me in my hurt, An unfailing ready Physician Art thou, my worthy Jesus; A stream of life are thy words, The sunshine of life is thy countenance; In thy presence death cannot Keep the stone over the grave's door. O Samaritan, come by, Do not turn thy face away; Let the wounded wretch feel That there is help in thy hand; Empty of sympathy is the world, And it does not listen to my cry; The only hope of the destitute, A soul's Physician, art thou. Thou wast perfected as a Prince Of salvation for my sake, In thy great merciful bosom Is balm to relieve my complaint; Thou dost understand my sorrows, Thou canst heal the deepest one; The sword and its griefs went Through thy own heart.tr. 2022 Richard B Gillion |
|